Mae un o sêr rygbi Cymru a’r Llewod yn rhagweld Cymru’n cipio’r Bencampwriaeth…os fedran nhw faeddu’r Gwyddelod are u tomen eu hunain yn Nulyn ddydd Sul.
“Mae’r gêm gyntaf yn bwysig iawn i ni,” meddai JPR Williams oedd ymysg cefnwyr disgleiria’r byd yn y 1970au.
“Os enillwn ni’r gêm gyntaf, fe awn ni’r holl ffordd. Ond o golli’r gêm gyntaf, rydw i’n dal i gredu y medrwn ni guro’n gemau cartref.
“Mae’n gêm enfawr yn erbyn Iwerddon ddydd Sul, gall e benderfynu tynged ein tymor ni.”
Fe allai’r sefyllfa seciolegol fod o blaid Cymru hefyd, yn ôl JPR Williams
“Iwerddon sy’n cychwyn yn ffefrynnau. Fe fyddwn yn mynd fewn i’r gêm yn underdogs. Ond mi fydd hynny’n ein ffafrio ni, achos ein bod ni’n chwarae’n well pan rydan ni’n underdogs, ac mae Iwerddon yn chwarae’n salach pan maen nhw’n ffefrynnau. Mi fydd hi’n gêm agos, ac ni fydd yna rhyw lawer o bwyntiau ynddi hi.”