Gleision v Caeredin 8pm heno

 Wedi’r grasfa arswydus yn Nulyn y penwythnos diwethaf, mae’r Gleision wedi newid tipyn o’r garfan a gollodd i Leinster.

Ymhlith yr olwyr, dim ond Casey Laulala sydd wedi cadw ei le wrth i Halfpenny, Cuthbert, Jamie Roberts a Lloyd Williams ddychwelyd wedi eu dyletswyddau rhyngwladol. Fydd Dan Parks yn gwisgo’r crys rhif 10 a Ceri Sweeney ar y fainc.

Gwelir pump newid i’r blaenwyr, Gethin Jenkins, Bradley Davies, Sam Warburton, Rhys Thomas a Michael Paterson yn cael eu croesawu yn ôl i’r pac i ymuno gyda Xavier Rush, Paul Tito a Taufa’ao Filise.

Fydd y Gleision yn edrych am eu chweched buddugoliaeth o’r bron yn erbyn Caeredin, ond fe fydd angen bod yn wyliadwrus o’u disgyblaeth rhag caniatáu cyfleoedd cicio i Chris Paterson.

Mae Caeredin wedi trechu Racing Metro a’r Gwyddelod o Lundain yn eu dwy gêm agoriadol yn Ewrop. Ac ennill y ddwy gêm o un pwynt yn unig!

Scarlets v Munster 3:40pm Dydd Sadwrn

 

Dau dîm sy’n parchu traddodiadau a diwylliant ei gilydd fydd yn mynd benben ar Barc y Scarlets yfory.

Mewn cynhadledd i’r wasg yr wythnos yma bu Stephen Jones yn canmol Munster i’r cymylau am y modd “galluog y maen nhw’n chwarae”.

Tra bod y Scarlets wedi ennill â steil yn erbyn Northampton trwy sicrhau pwynt bonws, mae Munster wedi naddu’r ddwy fuddugoliaeth yn erbyn y gwŷr o ogledd Lloegr a Castres a does neb yn fwy allweddol i’w hymdrechion na Ronan O’Gara.

Fe fydd Nigel Davies yn gobeithio y bydd George North a Jonathan Davies yn holliach i wynebu’r gwŷr o Orllewin Iwerddon.

Fe fydd Parc y Scarlets yn agos i lawn ar gyfer y gêm, mae’n argoeli ‘n ornest a hanner. 

Saraseniaid v Gweilch 6pm Dydd Sadwrn

 

Herio pencampwyr cynghrair Lloegr yn Stadiwm Wembley – fydd hon yn dipyn o frwydr i’r Gweilch.

Ymhlith y blaenwyr mae’r blaenasgellwr ifanc Justin Tipuric yn rhagweld y sialens fwyaf. Mewn datganiad a’r wefan y Gweilch dwedodd:

“Os ydych yn edrych ar y ffordd mae De Affrica yn chwarae, yn gorfforol, ceisio rhedeg dros bobol, a rhedeg trwy bobol, dyna’r ffordd mae’r Saraseniaid yn chwarae. Fydd yn rhaid i ni fod yr un mor gorfforol i’w hatal.”

Yn wir, mae dylanwad yr Affricana yn gryf yng ngharfan y Saraseniaid, gyda’r fath chwaraewyr â John Smit, Schalk Brits a’r gŵr o Namibia Jaques Burger  i enwi dim ond tri.

Wedi canlyniad siomedig oddi cartref yn erbyn Treviso tair wythnos yn ôl, fydd y Gweilch yn medru gwneud yn iawn am hynny gyda chanlyniad yng nghartref pêl-droed Lloegr?

Exeter v Dreigiau Gwent Casnewydd 5:45pm Dydd Sul

 

Adeiladu ar y fuddugoliaeth yn erbyn Perpignian fydd bwriad y Dreigiau ddydd Sul, a gyda Faletau a Lydiate yn dychwelyd i enaid y pac fydd y gwŷr o Went yn hyderus wrth deithio i Ddyfnaint i herio tîm sydd yn drydydd yn uwchgynghrair Lloegr ar hyn o bryd.

Wedi dweud hynny mi fyddan nhw’n teithio yno heb eu hasgellwyr profiadol sydd wedi disgleirio i’r rhanbarth y tymor yma.
Mae Aled Brew a’r gwibiwr Tonderai Chavhanga wedi eu hanafu. Er hyn mae Will Harries yn dychwelyd o anaf i hawlio lle yn y garfan am y tro cyntaf y tymor yma.

Fe fydd pen cyfarwydd yn cyfarch Lloyd Burns yn y sgrymiau, gan fod yr alltud o brop Craig Mitchell bellach yn ennill ei fara menyn gyda’r Exeter Chiefs.

Caio Higginson