Stephen Jones
Mae’n bosib fod y maswr Stephen Jones wedi chwarae ei gêm olaf i Gymru.

Mae’r Scarlet 33 oed wedi methu ag ennill lle yn sgwad 28 dyn Warren Gatland ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ar 3 Rhagfyr.

Er iddo ennill 104 cap – pedwar yn fwy na Gareth Thomas – cafodd Rhys Priestland a James Hook eu dewis o’i flaen yn ystod ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Mae Warren Gatland wedi enwi Dan Biggar a Priestland yn y sgwad ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia.

Enillodd Stephen Jones ei gap cyntaf dros Gymru yn 1998, a dim ond Neil Jenkins sydd wedi sgorio mwy o bwyntiau dros Gymru.

Bydd Shane Williams hefyd yn dweud ffarwel i’r tîm cenedlaethol wrth iddo chwarae ei gêm olaf yn Stadiwm y Mileniwm mewn pythefnos.

Mae’r asgellwr 34 oed, sydd wedi sgorio 57 cais dros Gymru, wedi dweud ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau iddi ar ôl y gêm.

“Bydd y gêm yn gyfle i’r cefnogwyr ddangos eu bachlder yn y tîm ar ôl eu perfformiadau yng Nghwpan y Byd,” meddai Warren Gatland.

“Ond dydyn ni ddim yn mynd i eistedd yn ôl a mwynhau’r dathlu. Mae Shane a’r tîm eisiau ennill unwaith eto.

“Mae’n gyfle arall i faeddu tîm o Hemisffer y De. Rydyn ni eisiau cystadlu ar yr un llwyfan a nhw.

“Mae’n bwysig hefyd bod y timoedd eraill fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gwybod ein bod ni’n bwriadu parhau i wella wrth adeiladu at Gwpan y Byd 2015.”

Sam yn gapten

Fe fydd Sam Warburton yn gapten unwaith eto yn y gêm yn erbyn Awstralia, er fod y prop Matthew Rees yn ôl yn y sgwad ar ôl methu Cwpan Rygbi’r Byd oherwydd anaf.

“Maen bwysig cadw’r cysondeb,” meddai Warren Gatland. “Ond mae’n hwb mawr i ni gael Matthew Rees yn ôl ymysg y blaenwyr.”

Dyw’r un o chwaraewyr tramor Cymru wedi eu rhyddhau gan eu clybiau, gan gynnwys James Hook, Mike Phillips a Lee Byrne.

Mae Jamie Roberts , Adam Jones, Dan Lydiate a Luke Charteris ar gael er iddyn nhw ddioddef o anafiadau dros yr wythnosau diwethaf.

Ond ni fydd Alun-Wyn Jones yn gallu chwarae ar ôl iddo gael gwybod y bydd rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei droed.

Y Sgwad

Cefnwyr: D Biggar (Gweilch), A Cuthbert (Gleision), J Davies (Scarlets), L Halfpenny (Gleision), T Knoyle (Scarlets), G North (Scarlets), R Priestland (Scarlets), J Roberts (Gleision), Liam Williams (Scarlets), Lloyd Williams (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Shane Williams (Gweilch).

Blaenwyr: S Andrews (Gleision), H Bennett (Gweilch), R Bevington (Gweilch), L Burns (Dreigiau), L Charteris (Dreigiau), B Davies (Gleision), I Evans (Gweilch), L Evans (Dreigiau), T Faletau (Dreigiau), G Jenkins (Gleision), A Jones (Gweilch), R Jones (Gweilch), D Lydiate (Dreigiau), M Rees (Scarlets), J Tipuric (Gweilch), S Warburton (Gleision, capten).