Ryan Jones - Sgoriwr ail gais y Gweilch
Treviso 26-26 Gweilch
Dwynodd Matthew Morgan gêm gyfartal i’r Gweilch gyda chic gosb hynod hwyr yn erbyn Treviso yn Stadio Comunale di Mongio brynhawn Sadwrn. Perfformiad braidd yn siomedig a gafwyd gan y rhanbarth o Gymru ond maent yn parhau yn ddi guro yng Nghwpan Heineken eleni yn dilyn drama hwyr yn yr Eidal.
Roedd y Gweilch ar y blaen o 10-9 ar hanner amser ond tarodd Treviso yn ôl mewn steil ar ddechrau’r ail hanner a bu rhaid i’r ymwelwyr ddibynnu ar gic gosb gan yr eilydd o faswr ifanc yn eiliadau olaf y gêm er mwyn dychwelyd i Gymru gyda dau bwynt.
Yr Hanner Cyntaf
Y tîm cartref a aeth ar y blaen wedi pum munud o chwarae, y Gweilch yn camsefyll a maswr yr Eidalwyr, Chris Burton yn manteisio gyda thri phwynt cyntaf y gêm.
Methodd Dan Biggar ddau gyfle i sgorio pwyntiau cyntaf y Gweilch gyda’i droed cyn i’r cais agoriadol ddod i Tommy Bowe wedi 18 munud. Torrodd yr asgellwr trwy amddiffyn Treviso cyn cael ei daclo fodfeddi o’r llinell ond yn ffodus i’r Gweilch llwyddodd y Gwyddel i ymestyn a chyrraedd y llinell. Llwyddodd Biggar â’r trosiad i’w gwneud hi’n 7-3 i’r ymwelwyr.
Ond dim ond un pwynt oedd ynddi ar yr egwyl wedi i Biggar lwyddo gydag un gic gosb i’r Gweilch a Burton gicio chwe phwynt arall i’r tîm cartref. 10-9 i’r Cymry ar hanner amser.
Treviso’n Taro’n Ôl
Dechreuodd yr Eidalwyr yr ail hanner ar dân gan sgorio dau gais yn y saith munud agoriadol. Y prop, Michele Rizzo a sgoriodd y cyntaf wedi 42 munud yn dilyn gwaith da gan y pac wrth linell gais y Gweilch. A’r asgellwr, Benjamin de Jager a blymiodd drosodd yn y gornel ar gyfer yr ail wedi 47 munud yn dilyn rhediad unigol da. Llwyddodd Burton gydag un trosiad ac roedd amser rhwng y ddau gais i Biggar lwyddo gyda chic gosb i’r Gweilch hefyd, 21-13 i’r Eidalwyr gyda hanner awr yn weddill.
Roedd y Gweilch yn ôl yn y gêm wedi 52 munud yn dilyn cais i Ryan Jones. Cais braidd yn ffodus ydoedd gan iddo ddeillio o dafliad rhy hir gan fachwr Treviso mewn llinell amddiffynnol ar eu llinell bum medr eu hunain. Ond wnaeth Jones ddim cwyno na Biggar chwaith wrth iddo drosi i gau’r bwlch i un pwynt.
Ond lledaenodd Treviso’r bwlch i chwe phwynt bum munud yn ddiweddarach wrth i’r mewnwr, Tobias Botes sgorio’u trydydd cais o’r gêm. Ymestynnwyd amddiffyn y Gweilch gan rediad gwych y canolwr, Tommaso Benvenuti a gorffennodd Botes y symudiad yn y gornel. 26-20 i’r Eidalwyr.
Tacl Beryglus Arall
Roedd Benvenuti yn ei chanol hi unwaith eto bum munud yn ddiweddarach, yn derbyn cerdyn melyn am dacl waywffon ar Shane Williams y tro hwn. Tacl debyg iawn i dacl Steven Shingler yng ngêm y Gleision neithiwr a gwaeth na Warburton yng Nghwpan y Byd oedd hi ond tacl a oedd ddim ond yn haeddu melyn ym marn y Ffrancwr, Pascal Gauzere.
Ciciodd Biggar y gic gosb ganlynol er mwyn cau’r bwlch i dri phwynt ond methodd y Gweilch a manteisio ym mhellach yn ystod absenoldeb Benvenuti. Roedd amddiffyn Treviso yn drefnus gyda phedwar dyn ar ddeg ac wedyn ar ôl i’r canolwr ddychwelyd i’r cae a methodd y Gweilch a thorri drwodd yn y chwarter olaf.
Roedd hi’n ymddangos fod yr Eidalwyr am ddal eu gafael ar fuddugoliaeth hanesyddol cyn i’r eilydd o faswr, Matthew Morgan drosi cic gosb anodd yn eiliadau olaf y gêm i ddwyn gêm gyfartal i’r Gweilch.
Y Gweilch yw unig dîm di guro grŵp 5 ond ail ydynt yn dilyn y gêm gyfartal. Mae’r grŵp yn hynod agos gyda dim ond un pwynt yn gwahanu tri thîm ar y brig. Afraid dweud felly fod y ddwy gêm nesaf yn erbyn y Saracens yn holl bwysig i’r rhanbarth o Gymru.