Gweilch 14–16 Southern Kings

Colli a fu hanes y Gweilch wrth iddynt groesawu’r Southern Kings i’r Liberty yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.

Aeth dechrau’r Gweilch i’r tymor o ddrwg i waeth wrth iddynt golli gartref yn erbyn un o dimau gwaethaf y gynghrair.

Rhoddodd Scott van Breda’r Kings ar y blaen gyda chic gosb wedi deuddeg munud a buan iawn y dilynodd cais i’r ymwelwyr hefyd. Gwrthymosododd y gwŷr o Dde Affrica yn syth o’r ail ddechrau gyda’r canolwr, Erich Cronje, yn cwblhau symudaid tîm gwych.

Llwyddodd van Breda gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb ar ddiwedd yr hanner i ymestyn y fantais i dri phwynt ar ddeg ar yr egwyl.

Ychwanegodd van Breda dri phwynt arall yn gynnar yn yr ail gyfnod i roi tair sgôr rhwng y ddau dîm.

O’r diwedd, cafwyd ymateb gan y Gweilch, gyda’r wythwr, Morgan Morris, yn croesi am sgôr cyntaf y tîm cartref.

Wrth i’r glaw dywallt ar y Liberty, daeth ail gais i’r Gweilch ddeg munud o’r diwedd wrth i’r bêl gael ei lledu am sgôr syml i Hanno Dirksen ar yr asgell dde.

Rhoddodd trosiad Luke Price y Cymry o fewn dau bwynt ond dal eu gafael a wnaeth y Southern Kings i sicrhau buddugoliaeth brin oddi cartref wedi i James Hook fethu gyda chic gosb hwyr, 14-16 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gweilch yn chweched yn adran A y Pro14 gyda dim ond un buddugoliaeth o’u chwe gêm gyntaf.

.

Gweilch

Ceisiau: Morgan Morris 52’, Hanno Dirksen 71’

Trosiadau: James Hook 53’, Luke Price 72’

.

Southern Kings

Ceisiau: Erich Cronje 13’

Trosiadau: Scott van Breda 14’

Ciciau Cosb: Scott van Breda 12’, 40’, 43’

Cerdyn Melyn: Erich Cronje 65’