Fe ddaeth Cymru o fewn dim unwaith eto i gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd ond ar ôl perfformiad cry’ yn yr ail hanner, grym De Affrica a aeth â hi.

Efo’r sgoriau’n gyfartal ar 16-16, fe ildiodd Cymru gic gosb o sgarmes symudol efo dim ond pum mynd ar ôl. Dyna hi’n 16-19.

Wedyn cryfder De Affrica yn cadw’r bêl yn y blaenwyr, yn cicio’n ddeallus ac yn rhwystro Cymru mewn llinell ac wedyn sgrym.

Fe orffennodd y gêm fel y dechreuodd hi a De Affrica’n rheoli’r tir a’r meddiant.

Ysbryd a menter

Cyn hynny, roedd Cymru wedi dangos ysbryd a menter yn dod yn ôl iddi – i ddechrau trwy unioni’r sgôr ar 9-9 ar ôl pum munud o’r ail hanner ac wedyn i daro’n ôl wedi i Dde Affrica gael cais.

Damian de Allende, y canolwr mawr, gafodd hwnnw ar ôl i Dan Biggar ac Owen Watkin, yr eilydd am George North, fethu taclau yn agos at  llinell.

A’r sgôr wedi’r trosiad yn 19-16, fe gafodd Cymru gyfnod da o bwysau ar lein De Affrica ac wedyn, ar ôl ennill cic gosb, mentro trwy fynd am sgrym.

Pêl gyflym, lledu a phasio cyflym ac fe groesodd Josh Adams ar yr asgell i aros ar y blaen o ran nifer ceisiau yn y gystadleuaeth.

Cyflymder newydd

Roedd y cais yn arwydd o’r cyflymder newydd yng ngêm Cymru ers i Tomos Williams ddod ymlaen wrth fôn y sgrym a Rhys Patchell wrth ei ochr.

Am gyfnod wedyn, Cymru oedd yn edrych orau tan i Dde Affrica gael y meddiant a gweithio’u ffordd i lawr y cae i roi caead ar y gêm.

Roedd chwaraewyr ifanc Cymru wedi dangos arwyddion gobeithiol, ond gêm yn erbyn y Teirw Duon fydd hi am y trydydd safle a’r prif hyfforddwr, Warren Gatland, yn wynebu’i famwlad yn ei gêm ola’ efo Cymru.

Yr hanner cynta’

Rhywsut neu’i gilydd, roedd gobeithion Cymru yn fyw ar yr hanner, er  gwaetha’ colli tir a meddiant i Dde Affrica a dod dan bwysau mawr yn y blaenwyr.

Dim ond ciciau oedd ynddi, o ran y sgorio ac, i raddau helaeth, o ran y chwarae agored hefyd ac, ar hyn o bryd, mae Handre Pollard wedi cael tair cic gosb i’r Springboks a Dan Biggar ddwy i Gymru.

Ar yr adegau prin pan oedd Cymru wedi gallu lledu’r bêl, roedden nhw wedi edrych yn beryglus ond roedd gêm galed gicio, llinell a sgarmes De Affrica yn creu problemau.

Anafiadau

Fe gollodd Gymru ddau chwaraewr allweddol i anafiadau – Tomas Francis yn cael anaf i’w ysgwydd mewn tacl a’r asgellwr George North ddau funud o ddiwedd yr hanner yn tynnu llinyn y gar pan oedd cyfle i ddilyn cic uchel.

Yn yr hanner cynta’, Cymru hefyd wedi dangos ansicrwydd annodweddiadol weithiau wrth fôn y sgarmes neu fynd am beli uchel ond fe wellodd hynny wedi’r hanner

Roedd y sgôr wedi pendilio’n gyson 0-3 ar ôl 14 munud, 3-3 ymhen dau funud wedyun. Hanner ffordd trwy’r hanner cynta, roedd hi’n 3-6 ac wedyn yn 3-9 gyda chwech munud ar ôl.

Fe drawodd Cymru’n ôl yn gyflym eto efo tri munud o bwysau da a’i gwneud hi’n 6-9.

Y pryder

Y pryder oedd grym y Boks wrth yrru ymlaen, efo chwech blaenwr mawr ffresh yn barod i ddod ymlaen. A dyna, yn y diwedd un, oedd yn dyngedfennol.