Mae hyfforddwr amddiffyn Cymru Shaun Edwards wedi dweud fod Cymru yn ymwybodol o’r bygythiad mae asgellwr De Affrig Cheslin Kolbe yn gynrychioli.

Daw hyn wrth edrych iddo ymlaen i gêm y ddau dîm yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd ddydd Sul (Hydref 27).

Mae’r asgellwr wedi sgorio saith cais yn ei 13 gêm brawf diwethaf.

“Os rwyt ti eisiau gweld gêm o rygbi, rwyt ti eisiau mynd i weld Cheslin Kolbe,” meddai Shaun Edwards.

“Mi fydd yn rhaid i ni gadw llygaid arno. Mae o’n un o’r chwaraewyr mwyaf deinamig dwi erioed wedi ei weld.”