Mae Lloegr a Seland Newydd drwodd i rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd.

Byddan nhw’n herio’i gilydd yn Yokohama ddydd Sadwrn nesaf (Hydref 26), wrth i Seland Newydd geisio ennill Cwpan y Byd am y trydydd tro yn olynol.

Fe wnaeth Lloegr guro Awstralia o 40-16, a rhoddodd y Crysau Duon grasfa o 46-14 i’r Gwyddelod.

Hon oedd gêm olaf Rory Best, capten a bachwr Iwerddon, cyn iddo ymddeol, ac mae hefyd yn ddiwedd cyfnod Joe Schmidt yn brif hyfforddwr ar y tîm.

Yfory (dydd Sul, Hydref 20), bydd Cymru’n herio Ffrainc, a Japan yn wynebu De Affrica.