Fe fydd capten Cymru, Alun Wyn Jones yn dod y chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Gymru pan fydd y tîm yn herio Awstralia yng Nghwpan Rygbi’r Byd ddydd Sul (Medi 29).
Dyma fydd 130ain cap Alun Wyn Jones dros ei wlad, gan basio record y prop Gethin Jenkins, a ymddeolodd y llynedd.
Dyma nhw’r ystadegau…
34 – oedran Alun Wyn Jones;
129 – y nifer o weithiau mae Alun Wyn Jones wedi chwarae i Gymru;
13 – y nifer o flynyddoedd ers i Alun Wyn Jones ennill ei gap cyntaf;
53 – y nifer o gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad mae Alun Wyn Jones wedi chwarae ynddyn nhw;
28 – y nifer o weithiau mae wedi bod yn gapten ar Gymru;
9 – y nifer o geisiau mae Alun Wyn Jones wedi eu sgorio dros ei wlad;
4 – y nifer o weithiau mae o wedi ymddangos yng Nghwpan y Byd;
3 – y nifer o weithiau mae Alun Wyn Jones wedi ennill y Gamp Lawn;
16 – y nifer o gemau Cwpan y Byd mae Alun Wyn Jones wedi chwarae ynddyn nhw.