Jamie Roberts - y gorau meddai Lievremont
Mae Ffrainc wedi enwi’r un tîm i wynebu Cymru yn y gêm fawr ddydd Sadwrn yng Nghwpan Rygbi’r Byd ac mae eu hyfforddwr wedi canmol y Cymry i’r cymylau.

Mae’r penderfyniad yn golygu y bydd y mewnwr Morgan Parra’n parhau i chwarae yn safle’r maswr ond mae ychydig o amheuaeth am ffitrwydd un o’r sêr, y rhif naw Dimitri Yachvili.

Doedd y dewis ddim yn annisgwyl ar ôl i Ffrainc gael eu gêm orau yn y Cwpan yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn ac mae carfan Cymru’n mynnu nad nhw yw’r ffefrynnau.

Roedd 11 o dîm Ffrainc ymhlith y 15 a gurodd Gymru’n gyfforddus yn y Chwe Gwlad eleni.

Canmol Cymru

Ond mae hyfforddwr Ffrainc, Marc Lievremong, wedi canmol y cochion, gan ddweud eu bod yn “ardderchog” ac mewn cyflwr gwirioneddol dda.

Roedd eu blaenwyr yn arbennig yn fwy heini ac yn ddewr iawn, meddai, gan ganmol yr ail reng Luke Charteris a’r rheng ôl. Jamie Roberts oedd canolwr gorau’r gystadleuaeth, meddai.

“Maen nhw’n chwarae rygbi da ym mhob ardal. Roedd y ffordd y gwnaethon nhw gadw Iwerddon dan reolaeth wedi gwneud argraff fawr arna’ i, yn enwedig gan fod Iwerddon hefyd mewn cyflwr da.”

Roedd hefyd yn canmol ymddygiad y Cymry wedi’r fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon. “O ystyried mai Cymry ydyn nhw, roedden nhw’n edrych yn eitha’ ffresh wedi ennill,” meddai.

Carfan Ffrainc

Y blaenwyr

1. Jean-Baptiste Poux
2. William Servat
3. Nicolas Mas
4. Pascal Papé
5. Lionel Nallet
6. Thierry Dusautoir (c)
7. Julien Bonnaire
8. Imanol Harinordoquy

Yr haneri

9. Dimitri Yachvili
10. Morgan Parra

Yr olwyr

11. Alexis Palisson
12. Maxime Mermoz
13. Aurélien Rougerie
14. Vincent Clerc
15. Maxime Médard

Yr eilyddion

16. Dimitri Szarzewski
17. Fabien Barcella
18. Julien Pierre
19. Louis Picamoles
20. Francois Trinh-Duc
21. David Marty
22. Cédric Heymans