Mae’r darlledwr a’r cyn-sylwebydd rygbi, Huw Llywelyn Davies, o’r farn bod cynnig i greu cynghrair rygbi rhyngwladol yn beth da “ar egwyddor”, ond ar yr un pryd mae’n cydnabod bod y manylion yn “creu pob math o rwystrau a phroblemau i bawb”.
Mae’r corff rhyngwladol, Rygbi’r Byd, yn bwriadu cyfuno calendr rygbi hemisffer y gogledd a’r de trwy greu Cynghrair y Byd a fydd yn cynnwys 12 gwlad.
Y bwriad yw cychwyn y gynghrair yn ystod y tymor rhyngwladol nesaf yn 2020, ac fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn flynyddol – ar wahân i flynyddoedd Cwpan y Byd – tan 2032.
Ond mae rhai cyrff rygbi a chwaraewyr rhyngwladol – gan gynnwys capten Lloegr, Owen Farrell, a maswr Iwerddon, Johnny Sexton – wedi codi nifer o amheuon am y cynnig a fydd yn arwain at fwy o gemau rhyngwladol yn ystod y flwyddyn rygbi.
Y cynnig
Mae cynnig Rygbi’r Byd, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi, yn bwriadu newid y calendr rygbi yn gyfan gwbl, gan ddisodli gemau cyfeillgar yr haf a’r hydref gyda rhai cystadleuol.
Bydd Cynghrair y Byd yn cynnwys 12 tîm rhyngwladol, gyda phob gwlad yn herio ei gilydd, naill ai drwy’r Chwe Gwlad, y Bencampwriaeth Rygbi, neu drwy gemau ‘cystadleuol’ yn ystod misoedd Gorffennaf a Thachwedd.
Yn ôl y bwriad presennol, fe fydd yr Unol Daleithiau a Siapan yn ymuno â Seland Newydd, Awstralia, De Affrica a’r Ariannin yn y Bencampwriaeth Rygbi, tra bo’r Chwe Gwlad yn aros fel y mae.
Fe fydd pob un o’r gwledydd yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith y flwyddyn, gyda rowndiau cynderfynol a therfynol yn cael eu cynnal yn hemisffer y gogledd ym mis Rhagfyr.
Llai o dalentau ifanc?
Yn ôl Huw Llywelyn Davies, fe fydd cynghrair ryngwladol yn “rhoi mwy o awch a mwy o statws” i’r gemau hynny sy’n cael eu chwarae yn ystod yr haf a’r hydref.
Ond wrth gyfeirio at y garfan iau a fu gan Gymru ar gyfer gemau’r haf diwethaf, mae’n gofyn a fydd disodli’r gemau cyfeillgar gyda rhai cystadleuol yn amddifadu talentau newydd o gyfleon.
“I’r gemau [cyfeillgar] hynny, mae yna fantais oherwydd mae’n rhoi cyfle i fechgyn sydd ar y cyrion i ddangos beth maen nhw’n gallu eu gwneud,” meddai.
“Rydyn ni wedi gweld hynny yn y Chwe Gwlad, gyda phobol fel Josh Adams, Cory Hill a Josh Navidi – mae’r bechgyn yma wedi dod trwodd yn gryf.
“A fydde nhw wedi cael y cyfle pe bai’r timoedd cryfaf wedi chwarae dros yr haf? Dydyn ni ddim yn siŵr.”
Lles chwaraewyr yn “hollbwysig”
Prif bryder y gŵr o Waun-Cae-Gurwen, er hynny, yw’r ffaith bod y siawns am fwy o “gemau ffyrnig” yn ystod y flwyddyn yn codi cwestiynau ynghylch lles chwaraewyr.
“Buddiannau’r chwaraewyr sy’n hollbwysig yn hyn,” meddai Huw Llywelyn Davies. “Rydyn ni’n gweld anafiadau di-ri yn pentyrru o’r drefn sydd ohoni.
“A hefyd, mae’n rhaid ystyried y teithio a fydde’n digwydd yn ôl ac ymlaen rhwng dau hemisffer. A yw hynny’n beth da wrth edrych ar gyflwr corfforol a meddyliol y chwaraewyr?
“… Y farn gyffredinol yw bod y straen hwnnw yn ormod ar hyn o bryd, a bydde ychwanegu at hynny ddim yn beth da.”
Gwrandewch ar Huw Llywelyn Davies yma: