Mae adroddiadau na fydd canolwr Cymru, Scott Williams ar gael am weddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, wrth iddo dderbyn triniaeth ar ei gefn.
Fe fydd y newyddion yn ergyd drom i Gymru ar drothwy’r ornest fawr yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ar Chwefror 23.
Mae Cymru eisoes heb yr wythwr amlwg Taulupe Faletau, sydd wedi anafu ei fraich.
Mae Cymru’n ail yn y tabl ac yn ddi-guro yn eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Ffrainc a’r Eidal.
“Mae Scott Williams wedi cael ei ryddhau o’r garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2019 i ganolbwyntio ar wella o anaf i’w gefn gyda’i ranbarth,” meddai Undeb Rygbi Cymru mewn datganiad.
“Teimlir y bydd ei anaf yn ei atal rhag cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
“Bydd diweddariad yn cael ei roi yn ddiweddarach heddiw ynghylch chwaraewyr sydd wedi’u rhyddhau i’w rhanbarthau i chwarae dros y penwythnos.”
Mae newyddion gwell am ffitrwydd tri chwaraewr arall, wrth i’r cefnwr Leigh Halfpenny (cyfergyd), y maswr Rhys Patchell a’r prop Leon Brown ymarfer yn llawn gyda’r garfan.