Mae Urdd Gobaith Cymru’n amddiffyn penderfyniad i atal bechgyn rhag cystadlu mewn cystadleuaeth pêl-rwyd i blant oed cynradd eleni.
Wrth fynnu eu bod “wedi ymrwymo i gyfleoedd cyfartal”, maen nhw’n dweud fod ganddyn nhw’r “hawl i gynnal digwyddiadau chwaraeon un rhyw”, gan roi ystyriaeth ofalus i “gryfder corfforol a chorffoledd”.
Mae gosod bechgyn a merched yn erbyn ei gilydd, meddai’r mudiad, “yn gwneud y gystadleuaeth yn un annheg”, ac felly eu bod wedi penderfynu fis Medi’r llynedd mai merched yn unig fyddai’n cael chwarae eleni.
‘Teg i bawb’
“Y prif reswm dros y penderfyniad oedd i sicrhau fod modd i ferched gymryd rhan mewn cystadleuaeth lle mae’r amgylchiadau yn deg i bawb,” meddai llefarydd.
“Mae hefyd bwlch sylweddol o safbwynt bechgyn a merched sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a thrwy gynnig cystadleuaeth i ferched yn unig yn y gamp hon sydd â llwybr clir ar gyfer cymryd rhan o’r oedran cynradd i’r uwchradd rydym fel mudiad yn gweithio tuag at leihau’r bwlch hwnnw.
“Rydym fel mudiad yn falch iawn o’r holl gystadlaethau chwaraeon a gynigir i dîmau o ferched, bechgyn a thîmau cymysg.
“Maen nhw’n dilyn canllawiau’r Adran Addysg ac fe’u hadolygir yn flynyddol fel rhan o werthusiad parhaus yr adran chwaraeon.”