Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud y byddan nhw’n talu Nantes am Emiliano Sala “os bydd rhaid yn ôl y cytundeb”.

Fe gytunodd yr Adar Gleision i brynu’r ymosodwr 28 oed o’r clwb yn Llydaw am £15m cyn iddo gael ei ladd ar ôl i’w awyren blymio i’r môr tros y Sianel, ac maen nhw’n hawlio’r taliad cyntaf amdano erbyn hyn.

Cafwyd hyd i’w gorff yng ngweddillion yr awyren ddydd Iau diwethaf, ond mae’r chwilio am gorff y peilot David Ibbotson yn parhau ar ôl i’w deulu fynd ati i geisio codi arian.

Mae Mehmet Dalman, cadeirydd Caerdydd, yn dweud y byddan nhw’n ystyried y sefyllfa’n ofalus cyn talu’r un geiniog.

“Wrth gwrs, os bydd rhaid i ni eu talu yn ôl y cytundeb, yna wrth gwrs y gwnawn ni,” meddai wrth BBC Cymru.

“Rydym yn glwb anrhydeddus.

“Ond os nad oes [rheidrwydd i dalu]… yna does bosib y byddech chi’n disgwyl i fi, fel cadeirydd a gwarcheidwad lles y clwb hwn, edrych i mewn i hynny a dal ein tir. Dyna rydyn ni’n ei wneud.

“Pan fyddwn ni’n cyrraedd lefel lle bo gennym ddigon o wybodaeth, rwy’n siŵr y byddwn ni’n eistedd gyda Nantes ac yn symud yn ein blaenau.”

‘Digwyddiadau eithriadol ac amgylchiadau trasig’

Dydy’r Adar Gleision ddim yn cytuno â’r broses y mae Nantes yn ei defnyddio i hawlio’r arian, meddai Mehmet Dalman, a hynny “yn sgil y digwyddiadau eithriadol ac amgylchiadau trasig” yn dilyn marwolaeth Emiliano Sala.

“Dydyn ni ddim am wneud unrhyw ddatganiad cadarnhaol na negyddol,” meddai.

“Yn syml iawn, rydym yn dweud, plîs a wnewch chi ddeall fod yna lawer o gwestiynau sydd angen eu hateb a dyna’r ydyn ni’n ceisio’i wneud.”

Mae Mehmet Dalman hefyd yn dweud bod y clwb yn cefnogi’r rheolwr Neil Warnock yn dilyn trafod ar ei gysylltiadau â’r asiant Willie McKay, oedd wedi helpu i drefnu’r awyren i gludo Emiliano Sala o Nantes.

“Mae’n bwysig ei fod e’n deall ein bod ni yma i’w gefnogi fe,” meddai.

“Roedd e yma i ni yn ystod cyfnod anodd ac fe enillodd e ddyrchafiad i ni. Mae e wedi dod â chwaraewyr gwych i’r clwb ac rwy’ am iddo wybod mai teulu ydyn ni. Mae’r cefnogwyr, y bwrdd, y cadeirydd, y prif weithredwr a’r perchennog y tu ôl iddo wrth iddo ymdrechu i ennill y statws o aros yn yr Uwch Gynghrair.”