Gleision 8–7 Connacht
Y Gleision aeth â hi mewn gêm agos wrth iddynt groesawu Connacht i Barc yr Arfau yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.
Roedd cais hanner cyntaf Owen Lane ac ymdrech amddiffynnol ddewr yn yr ail hanner yn ddigon i’r Gleision ei hennill hi o bwynt a chau’r bwlch ar y Gwyddelod yn nhabl adran A.
Gyda’r amodau o’u plaid yn yr hanner cyntaf, fe giciodd Steve Shingler y tîm cartref ar y blaen wedi deuddeg munud.
Roedd diffyg disgyblaeth yn broblem i’r Gleision wedi hynny wrth iddynt dderbyn dau gerdyn melyn o fewn chwe munud i’w gilydd. Brad Thyer a gafodd y cyntaf am dynnu sgarmes symudol i lawr cyn i Nick Williams ymuno ag ef yn y gell gosb am dacl hwyr.
Yn rhyfeddol, tri dyn ar ddeg y Cymry a gafodd y sgôr nesaf wrth i Owen Lane blymio’n uchel i orffen yn wych yn y gornel yn dilyn rhediad da Lloyd Williams o fôn y sgyrm. 8-0 y sgôr wedi hynny ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.
Gyda’r gwynt yn hyrddio’r glaw yn eu hwynebau, bu rhaid i’r Gleision wneud llawer mwy o amddiffyn yn yr ail hanner. Ond roedd eu disgyblaeth yn llawer gwell erbyn hyn ac fe wnaethant waith da am hanner awr a mwy.
Fe wnaeth Connacht ddod o hyd i ffordd drwodd yn y diwedd wrth i Paul Boyle hyrddio at y gwyngalch wedi i Lane ildio sgrym bump y gellid bod wedi ei hosgoi o bosib.
Rhoddodd trosiad Conor Fitzgerald yr ymwelwyr o fewn pwynt gyda phum munud yn weddill ond fe lwyddodd y Gleision i ddal eu gafael a sicrhau buddugoliaeth haeddiannol
Mae’r Gleision yn aros yn bumed yn adran A er gwaethaf y fuddugoliaeth ond mae’r bwlch rhyngddynt a Connacht yn y pedwerydd safle bellach i lawr i ddau bwynt.
.
Gleision
Cais: Owen Lane 25’
Trosiad: Steve Shingler 12’
Cardiau Melyn: Brad Thyer 15’, Nick Williams 21’
.
Connacht
Cais: Paul Boyle 75’
Trosiad: Conor Fitzgerald 76’