Gareth Anscombe fydd y maswr yn erbyn De Affrica wrth i Warren Gatland ddewis yr un tîm yn union a drechodd Awstralia, oni bai am Leigh Halfpenny.

Liam Williams fydd yn camu i esgidiau Leigh Halfpenny ac yn chwarae yn safle’r cefnwr ddydd Sadwrn.

Mae Leigh Halfpenny yn dioddef o gyfergyd a gafodd yn y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia.

Dan Biggar fydd y maswr ar y fainc.

“Rydym wedi gwobrwyo’r tîm wnaeth wynebu Awstralia,” meddai’r hyfforddwr Warren Gatland wrth egluro’r chwaraewyr y mae wedi eu dewis.

Wedi tair buddugoliaeth yn erbyn yr Alban, Awstralia a Tonga, mae gan y Cymry’r cyfle i gwblhau Camp Lawn yng ngemau’r Hydref am y tro cyntaf erioed.

Cymru:  L Williams (Saraseniaid); North (Gweilch), J Davies (Scarlets), Parkes (Scarlets), Adams (Caerwrangon); Anscombe (Gleision), G Davies (Scarlets); Smith (Gweilch), Owens (Scarlets), Francis (Caerwysg), Beard (Gweilch), Jones (Gweilch), Lydiate (Ospreys), Tipuric (Gweilch), Moriarty (Dreigiau).

Cymru v De Affrica – y gic gyntaf am 5.20 b’nawn Sadwrn