Mae Rabbi Matondo yn gobeithio y bydd y ffaith iddo chwarae ei gêm gyntaf tros ei wlad yn Albania nos Fawrth, yn help iddo dorri drwodd a chael gêm i’w glwb.
Mae’r glaslanc o Gaerdydd wedi bod yn rhwydo yn gyson i dîm dan 23 Man City, a’i obaith yw bachu cyfle i chwarae i’r tîm cyntaf.
Fe gafodd Rabbi Matondo ei eni yn Lerpwl ac mae yn gymwys i chwarae i Loegr a’r Congo, mamwlad ei dad.
Daeth yr ymosodwr 18 oed i’r cae fel eilydd yn erbyn Albania, a chreu argraff mewn gêm sâl gyda’i rediadau twyllodrus a’i gyflymdra cynhenid.
Ac am nad oedd y gêm yn Albania yn un gystadleuol, fe allai Rabbi Matondo ddewis chwarae i Loegr neu’r Congo.
Ond mae yn bendant mai chwarae i Gymru yw’r dyfodol iddo.
“Rydw i yn hapus yma ac yn hapus gyda Ryan Giggs wrth gwrs,” meddai.
“Yn fachgen ifanc roeddwn yn gwylio Gareth Bale, a rŵan rydw i’n chwarae efo fo.
“Mae yn wallgof i mi fy mod ar yr un cae ag o, yn hyfforddi gydag o ac yn treulio amser yn ei gwmni. Mae’r un peth yn wir am Joe Allen, Aaron Ramsey – mae yn wallgof.”
A’r targed nesaf yw torri trwodd yn Man City.
“Rydw i’n sicr y bydd chwarae tros fy ngwlad, yn erbyn chwaraewyr rhyngwladol safonol, yn fy helpu gyda fy nghlwb.”