Southern Kings 34–41 Scarlets
Sgoriodd y Scarlets chwe chais wrth drechu’r Southern Kings yn eu gêm Guinness Pro14 yn Stadiwm Bae Nelson Mandela, Port Elizabeth, nos Wener.
Dechreuodd y tîm cartref yn dda gyda cheisiau Masixole Banda a Yaw Penxe cyn i Fois y Sosban daro nôl gyda chais yr un i Dafydd Hughes a Will Boyde cyn yr egwyl.
Y Kings a oedd ar y blaen wrth droi serch hynny diolch i gicio cyiwr Banda, 20-15 y sgôr.
Rhoddodd trosiad Dan Jones o gais Ioan Nicholas yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm yn fuan wedi’r egwyl ond roedd dau gais arall i’r tîm o Dde Affrica yn hanner cyntaf yr ail hanner hefyd, y naill i Berton Klaasen a’r llall Bjorn Basson.
Ond y Scarlets a orffennodd gryfaf, gyda cheisiau Werner Kruger, Kieran Hardy a Taylor Davies yn y chwarter olaf yn sicrhau’r pwynt bonws a’r fuddugoliaeth iddynt, 34-41 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn ail yn nnhabl cyngres B y Pro14.
.
Southern Kings
Ceisiau: Masixole Banda 2’, Yaw Penxe 22’, Berton Klaasen 49’, Bjorn Basson 55’
Trosiadau: Masixole Banda 3’, 23’, 50’, 56’
Ciciau Cosb: Masixole Banda 10’, 34’
Cerdyn Melyn: Lupumlo Mguca 77’
.
Scarlets
Ceisiau: Dafydd Hughes 28’, Will Boyde 40’, Ioan Nicholas 42’, Werner Kruger 63’, Kieran Hardy 73’, Taylor Davies 78’
Trosiadau: Dan Jones 29’, 43’, 64’, 74’
Cic Gosb: Dan Jones 17’