Rhys Priestland
Mae maswr newydd Cymru’n dweud nad oes rhaid iddyn nhw ofni gêm gorfforol Samoa fory yn eu hail ornest yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.
Yn ôl Rhys Priestland, maen nhw eisiau cywiro rhai pethau ym mherfformiad y Sul diwetha’ wrth golli 16-17 yn erbyn De Affrica ac eisiau sicrhau gwell canlyniad.
Roedd hynny’n golygu cael cydbwysedd rhwng rhedeg a chicio a rhwng creu a chwarae’r gêm gorfforol sy’n angenrheidiol ar y maes rhyngwladol, meddai mewn cyfweliad fideo ar wefan yr Undeb Rygbi.
“Mae chwaraewyr Samoa i gyd yn chwaraewyr o sacon, yn gyfforddus gyda’r bêl yn eu dwylo ac yn chwaraewyr corfforol.
“Ond gyda’r holl dimau yr ’yn ni wedi eu chwarae yr haf yma, r’yn ni wedi gallu dal ein tir yn gorfforol.”
Yn y cyfamser, mae’r Samoaid hefyd yn dweud eu bod yn dawel hyderus y gallan nhw guro Cymru ar ôl buddugoliaeth hawdd yn erbyn Namibia ganol yr wythnos.
De Affrica’n ennill yn hawdd
Ynghynt heddiw, roedd De Affrica wedi mynd i frig y grŵp gyda buddugoliaeth hawdd yn erbyn Fiji o 49-3.
Fe sgoriodd y pencampwyr chwe chais yn erbyn dim ac ennill pwynt bonws yn y broses.
Sioc fawr i Awstralia
Fe gafodd hynny ei ddilyn gan sioc fawr y bencampwriaeth hyd yn hyn wrth i Iwerddon guro’r ail ffefrynnau, Awstralia, o 15-6.
Roedd yna ddwy gol gosb a gôl adlam i’r maswr, Jonathan Sexton, a dwy gôl gosb i’w eilydd, Ronan O’Gara, wrth i’r Awstraliaid bwyso ond methu â thorri llinell y Gwyddelod.
- Fe fydd y gic gynta’ rhwng Cymru a Samoa am 4.30 bore fory, amser Cymru.