Fe fydd cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn 2021 yn cael ei chynnal yn Lloegr – a Lloegr yn unig – yn ôl y trefnwyr.
Y Gynghrair Rygbi Pêl-droed, y corff sy’n gyfrifol am rygbi yn Lloegr, fydd trefnwyr y gystadleuaeth yn 2021, ac maen nhw wedi derbyn £25m er mwyn ei chynnal.
Fe fydd cyfanswm o 65 gêm yn cael eu chwarae yn rhan o’r gystadleuaeth dros gyfnod o bum wythnos, gan gynnwys digwyddiadau i ferched a’r anabl.
Fe fydd 31 o gemau ar gyfer y dynion, gyda 80% o’r rheiny’n cael eu cynnal yng ngogledd Lloegr.
Mae’r gystadleuaeth hon am fod yn wahanol i rai’r gorffennol sydd wedi’u cynnal o dan adain y Gynghrair, gyda rhai gemau yn 1995, 2000 a 2013 wedi’u chwarae yn Ffrainc, Cymru ac Iwerddon.
Ond o ganlyniad i nawdd gan y Llywodraeth, mae cyfarwyddwr y gystadleuaeth ar gyfer 2021, sef Jon Dutton, wedi cadarnhau na fydd hynny’n digwydd eto yn 2021.
‘Arian i Loegr yn unig’
“Dw i’n meddwl ei bod yn deg dweud na fyddwn ni’n mynd i Ffrainc,” meddai.
“Mae’r £25m sydd wedi cael ei roi i’r gystadleuaeth ar gyfer Lloegr.
“Mae’n gyllid datganoledig, felly mae’r un peth yn wir am Iwerddon a Chymru.
“Os bydd cais apelgar yn dod i’r bwrdd, fe fyddwn ni’n cael golwg dda arno, ond dw i ddim yn rhagweld mai dyna fydd yr achos.”