Mae disgwyl i George North ddechrau ar y cae yn asgellwr, pan fydd tîm rygbi Cymru yn wynebu’r Ariannin dros y penwythnos.
Yn ystod eu gêm yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn (Mehefin 2) – lle enillodd Cymru o 22-20 – mi ddechreuodd y chwaraewr yn safle’r canolwr.
Ond, fe symudodd i’r asgell pan anafodd Steffan Evans ei ben-glin.
“Gwnawn ni ddechrau â George ar yr asgell,” meddai cynorthwy-ydd tîm rygbi Cymru, Rob Howley. “Mae ganddo’r profiad o fod yn ganolwr, a r’yn ni’n gwybod ei fod yn medru chwarae yno.”
“Gêm gorfforol”
Wrth siarad am y gêm brawf, a fydd yn cael ei chynnal yn yr Ariannin, mae Rob Howley yn nodi bod tîm Cymru yn disgwyl her.
“Mae’n mynd i fod yn sialens,” meddai. “Ond rydyn ni’n barod am gêm gorfforol, ac mi fyddwn yn paratoi cymaint ag y gallwn dros yr wythnos hon.”
Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn San Juan, ddydd Sadwrn (Mehefin 9).