Mae capten tîm rygbi Cymru, Ellis Jenkins yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at arwain ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn De Affrica yn Washington.
Bydd y gic gyntaf am 10 o’r gloch heno, ac mae’r blaenasgellwr yn arwain tîm ifanc ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau.
Fe fydd dau chwaraewr newydd yn y garfan – y mewnwr Tomos Williams yn dechrau a’r blaenasgellwr Aaron Wainwright ar y fainc.
Er mai cyfle i’r chwaraewyr iau yw hwn, mae’r prif hyfforddwr Warren Gatland wedi wfftio’r awgrym mai cyfle i wneud elw ariannol yn unig yw’r gêm, gan fynnu ei bod yn rhan allweddol o’i baratoadau ar gyfer Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf.
Capten
O’i ran yntau, mae Ellis Jenkins yn benderfynol o fachu ar ei gyfle i arwain ei wlad.
“Mae cryn dipyn o sôn o hyd am y gapteniaeth, ond dim ond trwy chwarae’n dda rydych chi’n cyrraedd y sefyllfa honno, a gwneud eich gwaith yn iawn, a dyna dw i’n bwriadu ei wneud.
“Mae’n foment falch iawn i fi a ‘nheulu a rhaid i fi ddiolch i fy rhieni am fy arwain i yma, fe aethon nhw â fi i bob man pan o’n i’n ifanc.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at y gêm, mae Stadiwm RKF yn lleoliad gwych ag iddi dipyn o hanes ac mae’n gryn fraint cael bod yn gapten ar y tîm. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm.”
Gorffwys
Wrth i nifer o’r to iau gael cyfle i greu argraff, mae nifer o’r chwaraewyr mwyaf profiadol yn cael gorffwys.
Ond mae lle i George North yn y canol – y pedwerydd gwaith i’r asgellwr ddechrau yn y canol dros ei wlad.
Ac yn ôl Ellis Jenkins, bydd rhaid i Gymru fod ar eu gorau i drechu De Affrica.
“Mae gan Dde Affrica nifer o wynebau ffres, ond maen nhw’n mynd i fod yn beryglus.
“Efallai eu bod nhw’n ddibrofiad, ond mae ganddyn nhw hyfforddwr newydd felly byddan nhw’n awyddus i greu argraff arno fe, ac mae’r un peth yn wir am ein chwaraewyr ifainc ni.”