Zebre 7–10 Gleision

Cael a chael oedd hi ond cafodd y Gleision fuddugoliaeth bwysig yn erbyn Zebre oddi cartref yn y Stadio Sergio Landranchi brynhawn Sul.

Tri phwynt yn unig a oedd ynddi ond fe wnaeth y Cymry ddigon i drechu’r tîm ar waelod cyngres A y Guinness Pro14.

Daeth holl bwyntiau’r gêm yn chwarter awr olaf yr hanner cyntaf, gyda’r cais agoriadol yn dod i’r Gleision, Owen Lane yn gorffen yn dda ar yr asgell wedi gwaith da Rey Lee-Lo.

Roedd yr Eidalwyr yn gyfartal dri munud cyn yr egwyl diolch i drosiad Guglielmo Palazzani yn dilyn rhyng-gipiad a rhediad hir Giovanbattista Venditti.

Adferodd Jarrod Evans fantais y Gleision gyda chic olaf yr hanner ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wedi ail hanner di sgôr, 7-10 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn bedwerydd yn nhabl cyngres A y Pro14.

.

Zebre

Cais: Giovanbattista Venditti 36’

Trosiad: Guglielmo Palazzani 38’

.

Gleision

Cais: Owen Lane 28’

Trosiad: Jarrod Evans 29’

Cic Gosb: Jarrod Evans 40’