Sicrhaodd y Gweilch fuddugoliaeth bwynt bonws o 26-12 yn hwyr yn y gêm PRO14 yn erbyn Southern Kings yn Stadiwm Liberty neithiwr.

Daeth pedwar cais i’r Cymry gan y mewnwr Tom Habberfield, dau gais gosb a’r llall gan yr asgellwr Jeff Hassler yn ystod y 14 munud olaf. Daeth y dau bwynt arall oddi ar droed Sam Davies.

Croesodd Michael Makase a’r capten Michael Willemse am geisiau i’r ymwelwyr, ac ychwanegodd Martin Du Toit drosiad.

Roedd yr ymwelwyr i lawr i 13 dyn am gyfnod yn yr ail hanner wrth i Johan Smith ac Eital Bredenkamp gael eu hanfon oddi ar y cae am ddeg munud yr un.

Er iddyn nhw golli, roedd y canlyniad yn welliant o ryw fath i’r tîm o Dde Affrica, sydd wedi colli eu 14 gêm cyn neithiwr o gyfartaledd o 25 o bwyntiau.

Fe fu’n rhaid i’r Gweilch weithio’n galed am y fuddugoliaeth, ond mi ddaeth yn y munudau olaf wrth iddyn nhw gael cais cosb cyn i Hassler groesi.