Roedd y golwr o Gymru, Boaz Myhill ymhlith pedwar o chwaraewyr o Glwb Pêl-droed West Brom a gafodd eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o ddwyn tacsi yn Barcelona, yn ôl adroddiadau.

Mae’r rheolwr Alan Pardew wedi beirniadu ymddygiad Myhill, Gareth Barry, Jake Livermore a Jonny Evans tra eu bod nhw yng Nghatalwnia’n ymarfer gyda’u clwb.

Mae’r clwb yn cynnal ymchwiliad ac wedi cosbi’r pedwar.

Cefndir

Yn ôl y papur newydd El Mundo, roedd y pedwar wedi mynd â’r tacsi o fwyty McDonald’s toc cyn 5.30 fore Iau a’i yrru i’w gwesty.

Ond mae’r papur newydd yn mynnu nad oedd y pedwar wedi cael eu harestio.

Mae’r clwb ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr ar hyn o bryd, a’r clwb yng nghanol cyfnod cythryblus ar ôl i’r cadeirydd John Williams a’r prif weithredwr Martin Goodman gael eu diswyddo gan y clwb yn sgil perfformiadau’r tîm.

Mae’r chwaraewyr wedi ymddiheuro am y digwyddiad ar ôl datgelu mai nhw oedd y pedwar yng nghanol yr helynt.

Mae West Brom yn herio Southampton yng Nghwpan FA Lloegr heddiw.

Garry Barry sy’n dal y record am y nifer fwyaf o gemau yn yr Uwch Gynghrair, Jonny Evans yw’r capten, mae Jake Livermore yng ngharfan Lloegr ar hyn o bryd, a Boaz Myhill wedi ennill 19 o gapiau dros Gymru rhwng 2008 a 2013.