Connacht 26–15 Gweilch

Colli fu hanes y Gweilch wrth iddynt deithio i Faes Chwarae Galway i wynebu Connacht yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Cicio cywir Craig Donaldson a oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm mewn gêm eithaf agos.

Roedd cais yr un i’r ddau dîm yn yr hanner cyntaf wrth i Dafydd Howells groesi i’r Gweilch cyn i Eoghan Masterson sgorio i’r Gwyddelod gyda symudiad olaf yr hanner.

Sgoriodd y timau gais yr un eto yn yr ail hanner wrth i Thomas Farrell groesi i Connacht a Reuben Morgan-Williams i’r Gweilch mewn cyfnod o dri munud yn hwyr yn y gêm.

Ond y pwyntiau o droed y maswyr a oedd y gwahaniaeth yn y diwedd, llwyddodd Donaldson gyda dau drosiad a phedair cic gosb, yn erbyn un trosiad ac un gic gosb Sam Davies, 26-15 y sgôr terfynol o blaid y tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gweilch yn chweched yn nhabl cyngres A y Pro14.

.

Connacht

Ceisiau: Eoghan Masterson 40’, Thomas Farrell 69’

Trosiadau: Craig Ronaldson 40’ 70’

Ciciau Cosb: Craig Ronaldson 10’, 24’, 54’, 76’

.

Gweilch

Ceisiau: Dafydd Howells 20’, Reuben Morgan-Williams 72’

Trosiad: Sam Davies 73’

Cic Gosb: Sam Davies 63’

Cerdyn Melyn: Hanno Dirksen 53’