Mae’r Scarlets a’r Dreigiau yn chwarae gêm gynta’r PRO14 yn 2018 heno gyda’r tîm cartref yn gobeithio curo 16 gêm gartref o’r bron ym Mharc y Scarlets.

Ni fydd Steff Evans yn chwarae i’r Scarlets gan ei fod wedi’i wahardd oherwydd y cerdyn coch a gafodd yn y gêm ddarbi yn erbyn y Gweilch ar ddydd San Steffan.

Bydd Rhys Patchell yn cychwyn fel cefnwr yn absenoldeb Leigh Halfpenny a bydd Tom Prydie yn cychwyn ar yr asgell wedi perfformiad arbennig yn erbyn y Gweilch.

Bydd Samson Lee yn cychwyn ei gêm gyntaf ers y golled i Gaerfaddon yn Ewrop nôl ym mis Hydref  llynedd. Mae canolwr Cymru,  Hadleigh Parkes yn cychwyn wedi iddo basio prawf ffitrwydd hwyr a bydd Ken Owens unwaith eto yn arwain y Scarlets i’r frwydr.

Mae Bernard Jackman, hyfforddwr y Dreigiau, wedi cyfaddef y bydd yn rhaid i’w dîm amddiffyn am eu bywydau os am gael rhywbeth allan o’r ornest heno. Mae’r prop Nicky Thomas, sydd ar fenthig o’r Scarlets, yn cychwyn i’r Dreigiau. Ond unwaith eto does dim lle i Gavin Henson hyd yn oed ar y fainc.

Scarlets: Rhys Patchell; Tom Prydie, Steff Hughes, Hadleigh Parkes, Ioan Nicholas; Dan Jones, Aled Davies; Rob Evans, Ken Owens, Samson Lee, Steve Cummins, David Bulbring, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay

Ar y fainc: Ryan Elias, Wyn Jones, Simon Gardiner, Lewis Rawlins, Will Boyde, Jonathan Evans, Rhys Jones, Morgan Williams

Dreigiau: Carl Meyer; Pat Howard, Sam Beard, Jack Dixon, Jared Rosser; Arwel Robson, Dan Babos; Luke Garrett, Liam Belcher, Nicky Thomas, Joe Davies, Cory Hill, Aaron Wainwright, Taine Basham, James Benjamin.

Ar y fainc: Ellis Shipp, Thomas Davies, Lloyd Fairbrother, Rynard Landman, Robson Blake, Sarel Pretorius, Angus O’Brien, Jarryd Sage

Dyfarnwr: Marius Mitrea

Scarlets v Dreigiau yn fyw ar BBC2 Cymru heno gyda’r gic gyntaf am 7.35 yr hwyr.