Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi datgelu wrth golwg360 ei fod e wedi ceisio denu Sam Clucas i Sheffield Wednesday yn ystod ei ail dymor wrth y llyw yn Hillsborough.
Gadawodd y gŵr o Bortiwgal ei swydd yn Sheffield ar Noswyl Nadolig cyn cael ei benodi’n olynydd i Paul Clement yn Stadiwm Liberty bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Fe fu Carvalhal wrth y llyw yn Swydd Efrog am ddwy flynedd a hanner cyn hynny ac fe ddaeth yn edmygwr o ddoniau’r chwaraewr canol cae 27 oed, oedd yn chwarae i Hull City yn ystod y cyfnod hwnnw.
Ond i’r Elyrch y symudodd Clucas, a hynny am £15 miliwn fis Awst y llynedd, er ei fod e wedi cael cryn sylw gan nifer o glybiau yn yr Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth, ac yntau’n gallu chwarae ym mron pob safle ar y cae.
Dywedodd Carlos Carvalhal wrth golwg360: “Fe wnaeth e’n arbennig o dda pan oedd e gyda Hull City. Ro’n i’n ei hoffi fe’n fawr iawn.
“Chwaraeodd e mewn sawl safle, [Robert] Snodgrass ar un ochr a fe ar yr ochr arall bryd hynny ac yna’r tymor canlynol, dechreuodd e chwarae’n nes at ganol y cae. Fe wnaeth e’n dda iawn.
“Fe wnes i drio ei ddenu fe i fy nhîm i ar ôl y tymor wedyn ond roedd yn gwbl amhosibl, er i fi drio.”
Dechrau digon siomedig
Dechrau digon siomedig gafodd Sam Clucas ar y Liberty ddechrau’r tymor hwn, ac mae wedi cael ei feirniadu droeon gan y cefnogwyr wrth i’r Elyrch frwydro i godi o waelod tabl yr Uwch Gynghrair i’r safleoedd diogel gyda llai na hanner y tymor yn weddill.
Yn ei bymtheg gêm i’r Elyrch hyd yma, mae e wedi sgorio un gôl yn unig ac mae e wedi methu â chyrraedd y lefel oedd yn ddisgwyliedig, ac yntau wedi’i brynu yn lle prif sgoriwr yr Elyrch y tymor diwethaf, Gylfi Sigurdsson.
Ffrae ar Twitter
Daw sylwadau Carlos Carvalhal wrth i Sam Clucas dderbyn negeseuon bygythiol ar wefan gymdeithasol Twitter yn sgil ei berfformiadau cyson.
Ychydig ddiwrnodau’n ôl cyn y gêm yn erbyn Spurs, dywedodd Tomos Rhys Watson: “Byddwn i wir yn talu chwaraewr Spurs i dorri Clucas yn ei hanner.”
Wrth ymateb i’r neges ac ymddiheuriad a ddilynodd, dywedodd Sam Clucas: “Mae’n achosi cymaint o anhrefn oherwydd rwyt ti’n credu bod ei ddweud e y tu ôl i fysellfwrdd, y galli di ddod bant â dweud beth fynni di. Croeso i ti wneud sylw am fy mherfformiadau, mae hawl gyda ti i dy farn, ond paid â dymuno i chwaraewyr gael eu hanafu, yn enwedig pan bo nhw’n chwarae i’r tîm rwyt ti fod yn ei gefnogi!”
‘Disgwyl gwell’
Ychwanegodd Carlos Carvalhal: “Y tymor hwn pan ddechreuodd e, roedd e ymhell o’r lefel mae e’n gallu ei chyrraedd.
“Ond yn fy ail gêm [yn erbyn Spurs], fe ddangosodd e fwy ohono fe ei hun. Dyna’r math o Clucas sydd ei angen arnon ni. Dyna’r man cychwyn iddo fe, ceisio gwella, oherwydd mae’n rhaid iddo fe wneud tipyn gwell.
“Ry’n ni’n disgwyl iddo fe chwarae ar y lefel honno oherwydd yn y gorffennol, mae e wedi bod ymhell iawn o fod y chwaraewr dw i’n gwybod y gall e fod.”