Mae Clwb pêl droed Y Rhyl wedi penodi Cymro Cymraeg yn rheolwr newydd, ddau fis wedi i Niall McGuinness adael y clwb.

Mae Matt Jones wedi’i apwyntio’n rheolwr y tîm cyntaf am weddill tymor 2017/18. Mae wedi bod â’r clwb ers dechrau tymor 2016/17, a hynny yn hyfforddwr y tîm cyntaf.

Roedd Mark Connolly wedi cymryd yr awenau dros dro wedi ymadawiad Niall McGuinness, ac fe fydd o rwan yn mynd yn ôl i chwarae ac yn aelod o’r tîm hyfforddi.

“Rydan ni fel clwb wastad yn barod i roi cyfleoedd i bobol,” meddai Mike Jones, un o gyfarwyddwyr y clwb, wrth golwg360.

“Mae yna barch mawr i Matt o fewn y clwb, ac rydan ni’n dymuno pob lwc iddo fo.

“Mae’n beth positif hefyd ei fod o’n rhugl ei Gymraeg, a dw i’n siwr y bydd hynny o fantais i ni fel clwb wrth drïo ehangu y tymor hwn.”

Ar hyn o bryd, mae’r Rhyl yn drydydd yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, saith pwynt y tu ôl i Gaernarfon, sydd ar y brig, ond wedi chwarae un gêm yn fwy na’r Cofis.

Mae’r Rhyl yn herio Porthmadog brynhawn Sadwrn ar gae’r Belle Vue.