Mae capten tîm hoci merched Cymru wedi cyhoeddi ei bod hi am roi’r gorau i chwarae ar lefel ryngwladol.
Mae Abi Welsford, sy’n athrawes ymarfer corff yn Ysgol Uwchradd Brynteg, wedi bod yn chwarae hoci dros Gymru am 15 mlynedd, gan ennill 141 o gapiau ers ymuno â’r garfan yn 2003.
Ymhlith rhai o’i huchafbwyntiau yn ystod y cyfnod hwn oedd ennill ei chap gyntaf pan oedd cystadleuaeth y Cwpan Celtaidd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, a chapteinio Cymru yn Dehli yn 2010 a Glasgow yn 2014.
“Penderfyniad anodd”
Nid ar chwarae bach y mae hi wedi penderfynu ymddeol, meddai Abi Welsford, gan ddweud ei bod hi wedi ceisio dod i benderfyniad “ers amser hir”.
Un o’r prif ffactorau am ei ymddeoliad yw’r ffaith ei bod yn anodd iddi gadw’r cydbwysedd rhwng ei gwaith fel athrawes a’i gyrfa yn chwarawr hoci.
“Dyw e ddim yn rhwydd fod yn rhan o’r rhaglen ryngwladol”, meddai. “Mae’n golygu tipyn o waith yn ystod y penwythnosau, ac yn ddyddiol hefyd.
“Mae’n rhaid i chi aberthu a gwneud y penderfyniadau iawn os ydych chi am fyw bywyd athletwr rhyngwladol.”
Ond er camu o’r llwyfan rhyngwladol, mae’n mynnu na fydd hi’n rhoi’r gorau i’r gêm yn gyfan gwbwl.
“Mi fydda’ i’n parhau i chwarae i Spartans Abertawe,” meddai.