Mae’r Cymro, Connor Roberts, wedi dychwelyd i Glwb Pêl-droed Abertawe hanner ffordd trwy’i gyfnod ar fenthyg ym Middlesbrough.
Aeth y cefnwr de yno am dymor cyfan ar ddechrau’r tymor hwn.
Roedd rheolwr Middlesbrough ar y pryd a chyn-reolwr yr Elyrch, Garry Monk, yn allweddol i benderfyniad y chwaraewr i gamu i lawr o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth.
Mae Garry Monk bellach wedi gadael y clwb ar ôl cael ei ddiswyddo, a’r Cymro Tony Pulis wedi’i benodi yn ei le.
Ond mae’r rheolwr newydd yn dweud bod ganddo “ormod o chwaraewyr y tu allan i’r unarddeg”, a bod angen cwtogi ar y garfan.
Ymunodd Connor Roberts ag Abertawe yn 2014, ond dyw e ddim wedi chwarae i’r tîm cyntaf, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg yn Yeovil, Bristol Rovers a Middlesbrough.
Ond fe all fod yn dychwelyd i’r Elyrch ar adeg ddelfrydol, yn ystod absenoldebau dau gefnwr chwith y clwb, y capten Angel Rangel a Kyle Naughton.
Daeth Rangel oddi ar y cae yn ystod y golled o 2-0 yn erbyn Spurs neithiwr, ac fe fu’n rhaid i’r rheolwr newydd droi at yr amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn i lenwi’r bwlch ar y dde.
Mae Kyle Naughton wedi’i wahardd am dair gêm.