Mae amheuon a fydd asgellwr Cymru, George North yn holliach ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe fydd Cymru’n herio’r Alban yng Nghaerdydd ar Chwefror 3.
Dychwelodd yr asgellwr, sydd wedi ennill 69 o gapiau ac wedi sgorio 30 o geisiau dros ei wlad, i’r cae am y tro cyntaf ddydd Sadwrn ar ôl cyfnod o 11 wythnos allan yn dilyn anaf i’w ben-glin.
Fe anafodd ei ben-glin yn ystod Cwpan Her Ewrop ym mis Hydref, gan golli gemau’r hydref.
Ac fe gafodd ei anafu unwaith eto yn ystod y gêm rhwng Northampton a Harlequins ddydd Sadwrn, sy’n golygu na fydd ar gael am dair gêm nesa’ ei glwb yn Ewrop, gan godi amheuon am ei obaith o gyrraedd carfan Cymru.
Fe fydd yn gadael Northampton am un o ranbarthau Cymru ar ddiwedd y tymor.
Anafiadau eraill
Fe fydd Cymru heb Sam Warburton a Jonathan Davies gydol y Bencampwriaeth eleni, ac mae amheuon a fydd Taulupe Faletau, Dan Lydiate a Hallam Amos yn holliach i ddechrau’r gystadleuaeth.