Mae Gareth Thomas, un o olwyr tîm Rygbi’r Gynghrair y Crusaders, wedi cadarnhau ei fod wedi torri braich wrth golli 38-10 yn erbyn Hull Kingston Rovers.

Cafodd ei anafu ychydig cyn hanner amser yn ystod y gêm ddydd Sadwrn ar y Cae Ras, ac ni ddychwelodd wedi’r egwyl. Mae’n bur debyg y bydd rhaid iddo golli gweddill y tymor o ganlyniad.

Fe gafodd sgan ar ei fraich a chadarnhau ei fod wedi’i thorri. Ond roedd agwedd gadarnhaol ganddo wrth gyhoeddi ar Twitter: “Efallai fedrai ddod yn ôl i chwarae yn gêm olaf y tymor. Mae’n gwneud lles cael targed penodol.”

Gêm yn erbyn Wigan fydd olaf y tymor i’r Crusaders, ar Fedi’r 9.