Mae’r bowliwr cyflym, Simon Jones, wedi cyfaddef nad ydyw’n gwybod os fydd modd iddo aros gyda Morgannwg wedi i’w gyfnod arfenthyg ddod i ben.
Cafodd Jones ei roi ar fenthyg gan glwb criced Hampshire tan Orffennaf 16eg, ac er iddo ddatgan y byddai’n ddigon hapus i gael dychwelyd unwaith eto i chwarae i Forgannwg, mae’n cydnabod nad ef fydd yn penderfynu yn y pen draw.
Dywedodd Jones, 32: “Does gen i ddim cliw i fod yn onest. Dim fy mhenderfyniad i ydi o. Penderfyniad Hampshire yw hynny ar ddiwedd y dydd. Nhw yw fy nghyflogwyr. Fydd rhaid aros i weld.”
“Dwi’n mwynhau fy amser gyda Morgannwg, a dwi hefyd yn mwynhau cael chwarae gyda Hampshire. Fydd rhaid i ni aros a phenderfynu beth sydd orau i mi, ac wedyn fe gawn ni weld.”
Mae gan Simon, a enwebwyd yn ‘ddyn y gêm’ yn erbyn Gloucestershire nos Sul, ddeunaw mis yn weddill ar ei gytundeb gyda Hampshire.
Cipiodd ddwy wiced yn y gêm honno, ac er iddynt gael buddugoliaeth, does dim gobaith ganddynt i gael symud ymlaen i rowndiau cynderfynol y bencampwriaeth Ugain20.
“Mae gennym ni un gêm ar ôl , felly gobeithio gallwn ni ennill honno a gorffen mewn safle parchus yn y grŵp,” meddai Jones, sydd wedi cymryd 10 wiced mewn 10 gem Ugain pelawd i Forgannwg.