Llwyddodd y Cymro Jamie Donaldson i ddod yn gydradd bedwerydd ar gyfanswm o 203 (-13) wedi 3 rownd ym Mhencampwriaeth Agored yr Alban ddoe.
Luke Donald, y golffiwr sy’n ddetholyn rhif 1 y byd ar hyn o bryd, oedd yn fuddugol.
Fe gafodd y gystadleuaeth, yng nghwrs Castle Stuart, Inverness ei byrhau o 72 i 54 twll o ganlyniad i dywydd erchyll Ddydd Sadwrn.
Wedi rownd olaf o 63, rownd isaf ei yrfa hyd yn hyn, gorffennodd Luke Donald 19 ergyd yn well na’r safon, a phedair ergyd yn well na Fredrik Andersson Hed yn yr ail safle i selio’i fuddugoliaeth gyntaf ers cael ei ddyrchafu i safle’r detholyn gorau yn y byd.
Mae’n ymestyn y bwlch rhyngddo a Lee Westwood – yr ail ddetholyn – ac yn siŵr o fod wedi magu llawer o hyder cyn cychwyn pencampwriaeth agored Prydain yr wythnos hon.
O’r Cymry eraill yn y gystadleuaeth, gorffennodd Stephen Dodd ar -8 a Bradley Dredge ar -5 – ond methodd y gweddill – Rhys Davies, Phillip Price a Stuart Manley – barhau heibio toriad yr ail rownd.