Mae hyfforddwr tîm saith bob ochr Cymru, Paul John, wedi enwi carfan 13 dyn ar gyfer cymal Lloegr o Gyfres y Byd yn Twickenham dros y penwythnos.

Mae yna dri newid i’r garfan, gan gynnwys Ifan Evans sy’n dychwelyd wedi anaf.

Mae Gareth Owen o’r Gweilch wedi ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers mis Tachwedd 2008.

Mae Will Price o Aberafan hefyd wedi ei ddewis yn y garfan am y tro cyntaf.

Gyda dau gymal o’r gyfres yn weddill mae Paul John am i Gymru orffen y gystadleuaeth yn gryf ar ôl ennill cystadleuaeth y Plât diwetddaraf yn Adelaide.

“R’yn ni’n hapus ein bod ni wedi gallu cael carfan eithaf cyson drwy gydol y gyfres,” meddai.

“Mae cael Ifan yn ôl yn hwb ac mae Gareth Owen yn chwaraewr rhanbarthol o safon.  Mae Will Price wedi dangos ei ddoniau gyda’i glwb ac wrth ymarfer gyda ni,” meddai Paul John.

“Byddwn ni’n wynebu Sbaen, Kenya a Seland Newydd yn y grŵp, felly fe fydd hi’n dipyn o her cyrraedd rownd yr wyth olaf.

“R’yn ni’n hapus gyda ble r’yn ni yn y tabl a gyda’n perfformiadau.  R’yn ni wedi bod yn fwy cystadleuol yn rownd yr wyth olaf eleni.”

Carfan Cymru

Jevon Groves (Dreigiau), Gareth Davies (Caerdydd), Rhys Shellard (Caerdydd), Richie Pugh (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Nicky Griffiths (Dreigiau), Adam Thomas (Pontypridd), Alex Walker (Eastwood, Sydney), Warren Davies (Tonmawr), Kristian Phillips (Gweilch), Ifan Evans (Llanymddyfri), Gareth Owen (Gweilch), Will Price (Aberafan).