Mae pob argoel am ddiweddglo cyffrous i’r tymor rygbi yr wythnos nesaf ar ôl i’r Dreigiau guro Gleision Caerdydd heddiw.
Roedd y Gleision wedi gobeithio sicrhau lle yng ngemau ail gyfle Cynghrair Magners, ond ar ôl methu cipio hyd yn oed bwynt bonws collwyr, dydyn nhw ddim ond un pwynt ar y blaen i’r Gweilch, sydd yn y pedwerydd safle, erbyn hyn.
Mae’r cyfan dibynnu ar gemau’r penwythnos nesaf felly i wybod pa dîm o Gymru fydd yn mynd trwodd i’r gemau ail gyfle.
Fe fydd y Gleision yn wynebu gêm galed yn erbyn yn y Scarlets, ac fe fydd y Gweilch yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws yn Aironi.
Un o sêr y gêm heddiw oedd y chwaraewr ifanc Steffan Jones a oedd ar fenthyg o Drecelyn. Sgoriodd yn y seithfed munud, yn ogystal â chic gosb hwyr o 50 metr i amddifadu’r Gleision o bwynt bonws collwyr.
Ar y 14eg munued, sgoriodd asgellwr y Dreigiau, Aled Brew, ei 16eg cais y tymor – gan dorri’r record am y nifer uchaf o geisiau gan unrhyw chwaraewr ers i rygbi Cymru fynd yn rhanbarthol.
Ar ôl i’r clo Adam Jones fynd i’r cwrt cosbi, fe ddaeth y Gleision yn ôl i’r gêm am gyfnod ac unioni’r sgôr i 15-15.
Ond er iddyn nhw ymddangos fel y ffefrynnau i ennill, fe wnaethon nhw golli momentwm a wnaethon nhw ddim llwyddo i sgorio wedyn.
Ar ôl cais, trosiad, cic gosb a chic adlam gan y Dreigiau, roedd hi ar ben ar y Gleision.