Cais arall i Brew - ei bumed mewn tair
Caeredin 27 Dreigiau 15

Fe ddaeth gobeithion y Dreigiau am le yng Nghwpan Heineken i ben yn yr Alban – wrth iddyn nhw golli yng Nghaeredin, roedd y Scarlets yn ennill yn Glasgow.

Fe allai’r gurfa fod yn waeth – y Dreigiau oedd wedi cael cais cynta’r gêm er mai’r Albanwyr oedd yn rheoli’r chwarae.

Roedd y maswr Jason Tovey wedi creu’r bwlch i’r asgellwr Aled Brew ac, ar un adeg, roedd y Cymry ar y blaen.

Ond fe giciodd cefnwr Caeredin, Chris Paterson, gyfanswm o 12 pwynt a chael cais wrth i’r tîm cartre’ ennill am y trydydd tro o’r bron ar eu tomen eu hunain.

Roedd yna gais i gefnwr y Dreigiau, Adam Hughes, wrth iddo ddilyn cic trwodd ond, mewn gwirionedd, doedd Caeredin ddim mewn unrhyw beryg.

Bellach, maen nhw o fewn pwynt i’r Dreigiau yn y gystadleuaeth am y seithfed lle.