Nigel Owens - wrth ei fodd o gael ei ddewis
Mae Nigel Owens wedi dweud ei fod wrth ei fodd o gael ei ddewis yn un o’r dyfarnwyr ar gyfer Cwpan y Byd eleni.
Fe gafodd y Cymro ei ddewis yn rhan o banel dyfarnu deg dyn ar gyfer y gystadleuaeth yn Seland Newydd yn yr hydref.
Fe fydd y dyfarnwr enwog yn cael ei ymuno gyda Chymro arall, Tim Hayes sydd wedi cael ei ddewis yn un o saith swyddog cynorthwyol.
“Mae’n deimlad gwych i gael fy newis. Roedden ni wedi cael gwybod na fyddai neb nad oedd ddim yn perfformio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu dewis, ac roedd nifer ohonom ni’n nerfus,” meddai Nigel Owens.
“Mae cael fy newis i gynrychioli rygbi Cymru yn un o ddim ond deg dyfarnwr yn anrhydedd arbennig.
“Er fy mod i wedi mynd i Gwpan y Byd 2007, doeddwn i ond wedi dyfarnu mewn tua hanner dwsin o gemau rhyngwladol adeg hynny. Y tro hwn fe fydd gennyf y profiad o tua 26 neu 27 gêm.
“Rwy’n credu eich bod yn dysgu llawer o’r adegau hynny nad ydych wedi dyfarnu cystal. Rwyf wedi cael rhai o’r profiadau hynny dros y pedair blynedd diwethaf. Ond mae’r cyfnodau yna’n gwneud i chi weithio’n galetach i wella ar eich perfformiadau.”
Mae rheolwr dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru, Rob Yeman wedi dweud bod y newyddion yn hwb mawr i rygbi Cymru.
“Mae’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi dewis deg dyfarnwr, saith cynorthwyydd a phedwar dyfarnwr teledu. Felly mae cael dau ar y rhestr allan o 21 yn llwyddiant ardderchog,” meddai Rob Yeman.