Enillodd Rhuthun o drwch blewyn mewn gêm galed yn erbyn Pwllheli.
Am y deng munud cyntaf, roedd Rhuthun yn chwarae’n dda, ond nid oeddent yn ddigon da i droi’r pwysau’n bwyntiau.
Datblygodd y gêm yn un flêr ac ar ôl i Ruthun fethu tacl, gwibiodd asgellwr Pwllheli Michael Hughes i lawr yr asgell a sgorio cais.
Ychydig funudau’n ddiweddarach manteisiodd yr ymwelwyr o fwlch enfawr yn amddiffyn Rhuthun a rhyddhau Hughes i sgorio unwaith eto, gyda’r mewnwr Nick Butterworth yn trosi.
Cychwynnodd Rhuthun bwyso eto ac ar ôl cyfnod o chwarae dyfal yn hanner Pwllheli, aeth y prop Jason Humphries dros y llinell. Troswyd gan yr Wythwyr Shay Tudor.
Pan orffennwyd yr hanner roedd yr ymwelwyr ar y blaen 7-12.
Ail hanner
Dechreuodd Rhuthun yr ail hanner yn gryf, ond roedd y chwarae yn parhau i fod yn flêr ac yn anhrefnus. Er hyn, llwyddodd y Gleision i leihau’r bwlch i 10-12 gyda gôl gosb gan Tudor.
Pymtheg munud cyn y diwedd, ymestynnodd Pwllheli eu mantais wrth i Deio Brunelli sgorio cais ond fe darodd Tudor yn ôl ar unwaith gyda gôl gosb arall i gadw’r Gleision o fewn pump pwynt,13-17.
Gyda’r chwiban olaf yn nesu, fe wthiodd y canolwr ifanc Lewis Isaac ei hun dros y llinell am ail gais Rhuthun gan roi’r Gleision ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
Gydag eiliadau prin a ganiateir am anafiadau yn weddill, enillodd yr ymwelwyr gic cosb o flaen y pyst gyda Butterworth yn trosi i roi Pwllheli ar y blaen unwaith eto o 18-20.
Yna, gyda chwarae olaf y gêm, trosodd Tudor gôl gosb, fe chwythodd y dyfarnwr y chwiban gyda’r sgôr 21-20 i Ruthun.
Roedd hwn yn berfformiad anhrefnus ac annodweddiadol ar brydiau gan y Gleision yn erbyn tîm cymwys o Bwllheli. Heb berfformiadau eithriadol gan chwaraewyr y tîm ifanc, Isaac Lewis, Tudur Parry a Shay Tudor fyddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol iawn.