Gareth Delve
Mae hyfforddwr y Melbourne Rebels, Rod Macqueen, yn credu dylai Cymru ystyried dewis Gareth Delve  yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd.

Fe benderfynodd cyn gapten Caerloyw ymuno gyda chlwb newydd y Super 15 haf diwethaf ac mae erbyn hyn yn is-gapten ar y clwb.

Ond roedd ei benderfyniad i symud i Awstralia yn golygu na fyddai’n bosib iddo chwarae i Gymru.

Fe enillodd Delve yr olaf o’i 11 cap yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2010.

Ond mae safon ei berfformiadau i’r Melbourne Rebels yn gwneud i Rod Macqueen gredu y gallai Warren Gatland fanteisio ar ei brofiad o chwarae rygbi hemisffer y de ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd.

Fe fydd Cymru’n wynebu De Affrica, Fiji, Samoa a Namibia yn eu grŵp ac fe allai presenoldeb Delve yn y garfan fod o fudd i obeithion Cymru yn ôl hyfforddwr y Melbourne Rebels.

Mantais

“Rwy’n credu bod y ffaith ei fod yn chwarae mewn cystadleuaeth yn hemisffer y de ac yn deall mwy am gemau hemisffer y de yn fantais,” meddai Rod Macqueen.

“Gyda bod Cwpan y Byd yn Seland Newydd, a chwarae yn erbyn yr holl dimau hemisffer y de, rydych chi’n dod i adnabod eu ffordd o chwarae yn well, ac mae hynny’n fantais i Gareth.

“Mae Gareth yn chwarae mewn cystadleuaeth o safon uchel ac mae wedi gwneud yn dda.”

Pe bai’r Melbourne Rebels yn methu ag ennill eu lle yn y gêmau ail gyfle fe fydd eu gêm olaf o’r tymor ar 17 Mehefin.

Mae Cymru yn chwarae’r Barbariaid ar 4 Mehefin yn ogystal â Lloegr dwywaith a’r Ariannin ym mis Awst yn rhan o’u paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd.