Enisei-STM 21–28 Dreigiau
Mae’r Dreigiau’n dychwelyd adref gyda phwyntiau llawn wedi taith hir i Rwsia i wynebu Enisei-STM yng Nghwpan Her Ewrop.
Sgoriodd y Cymry bedwar cais yn Stadiwm Slava, digon i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws er i’r tîm cartref orffen yn gryf.
Daeth dau gais i’r ymwelwyr o Gymry yn y deugain munud agoriadol, y naill i’r clo, Cory Hill, a’r llall i’r asgellwr, Jared Rosser.
Ychwanegodd Hallam Amos drydydd y Dreigiau yn gynnar yn yr ail gyfnod ac roeddynt yn edrych yn gyfforddus.
Wnaeth y Rwsiaid ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny gan ymateb gyda thri chais eu hunain yn yr hanner awr olaf, un cais cosb ac un yr un i Stanislav Selskii ac Anton Rudoi.
Yn ffodus i’r Dreigiau, roedd un cais arall iddynt hwythau hefyd wrth i Joe Davies hyrddio drosodd ddeg munud o’r diwedd i sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws.
.
Enisei-STM
Ceisiau: Stanislav Selskii 53’, Cais Cosb 69’, Anton Rudoi 79’
Trosiadau: Iurli Kushnarev 53’, 79’
.
Dreigiau
Ceisiau: Cory Hill 17’, Jared Rosser 23’, Hallam Amos 42’, Joe Davies 70’
Trosiadau: Angus O’Brien 18’, 23’, 42’, Gavin Henson 71’