Mae hyfforddwr rhanbarth rygbi’r Dreigiau yn pryderu bod gormod o chwaraewyr rygbi yn dibynnu ar gyffuriau.
Mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd Bernard Jackman ei fod wedi clywed am “sawl person” yn mynd yn gaeth i gyffuriau lleddfu poen yn ddiweddar, a hynny oherwydd eu bod yn awyddus i chwarae er gwaethaf eu hanafiadau.
“Dydyn ni ddim eisiau pobol i gymryd cyffuriau lleddfu poen er mwyn eu galluogi i chwarae, mae angen i ni wneud yn siŵr bod chwaraewyr yn deall hynny, ac mae angen i ni hefyd greu trefn ac awyrgylch lle y gallan nhw wella’n iawn.”
Daw sylwadau’r hyfforddwr wedi’r gêm rhwng y Dreigiau a’r Gleision y penwythnos diwethaf – roedd 29 o chwaraewyr y Dreigiau wedi eu hanafu, a dim ond 22 o’r garfan oedd yn iach i chwarae.
Ac o’r 22 yna, fe gafodd yr asgellwyr Jared Rosser a Ashton Hewitt cyn y gêm a methu chwarae.