Neil Warnock, Rheolwr Caerdydd
Mae gan dîm pêl-droed Dinas Caerdydd gêm fawr oddi cartref yn erbyn Birmingham yn y Bencampwriaeth heno.
Maen nhw ar frig y gynghrair ac mi fyddan nhw yn llygadu buddugoliaeth yn erbyn tîm gollodd yn drwm oddi cartref yn erbyn Hull yn eu gêm ddiwethaf, gan ildio chwe gôl.
Wedi dweud hynny, yr ornest heno fydd gêm gyntaf Steve Cotterill wrth y llyw yn rheoli Birmingham, ac mae timau sâl yn medru codi eu gêm pan mae dyn newydd yn gyrru’r drol.
Mae Birmingham yn y safleoedd syrthio yng ngwaelodion y tabl, gyda dwy fuddugoliaeth yn unig yn eu 11 gêm gynta’r tymor hwn.
I’r gwrthwyneb yn llwyr, mae Caerdydd wedi bod ar dân ar ddechrau’r tymor, gan guro saith gêm, sicrhau tair gêm gyfartal a cholli dim ond unwaith.
A’u rheolwr, yr hen gadno cyfrwys Neil Warnock, sy’n cael y clod am gychwyn campus tîm y brifddinas.
“Yn syml, sgiliau trefnu Neil Warnock a phrofiad Neil Warnock” sy’n gwneud i’r Adar Gleision hedfan meddai Owen Powell, cyn-gitarydd Catatonia a ffan mawr Caerdydd, wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
Hanner canrif ar y cae
“Mae yna rywbeth am Warnock,” meddai Owen Powell, “pryd mae e’n gweld chwaraewyr mae e’n gwybod eu cryfderau a’u gwendidau.
“Ond yn bwysicach na hynny, mae e’n gwybod beth mae o’n gallu cael allan ohonyn nhw.”
Un chwaraewr felly yw Sol Bamba a ddaeth o Leeds, a hynny am ddim arian o gwbl gan ei fod yn rhydd o unrhyw gytundeb ar y pryd.
Mae’r amddiffynnwr mawr rhyngwladol wedi bod ar dân lawr yn y brifddinas.
“Roedd Warnock yn ffan enfawr o Bamba,” meddai Owen Powell, “ac mewn ffordd, Bamba yw Neil Warnock ar y cae chwarae…
“Mae Warnock wedi troi Bamba i mewn i chwaraewr arbennig. Daeth e’ o Leeds gyda ffans Leeds yn dweud: ‘Mae e’n gwneud lot o gamsyniadau. Mae e’n gweld y red mist weithiau’.
“Ond yn y gêm yn erbyn Leeds roedd e’n chwarae o flaen y pedwar yn y cefn, ac roedd pawb yn dweud bod Warnock wedi troi Sol Bamba i mewn i Patrick Vieira. Roedd e’ wedi cael gêm anhygoel.”
Birmingham v Caerdydd ar Sky Sports Football nos Wener am 7.45 yr hwyr