Mae’r chwaraewr rygbi Eifion Lewis-Roberts wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r gêm broffesiynol ar ôl derbyn anaf i’w goes.

Derbyniodd y prop 36 oed, sy’n dod yn wreiddiol o Lanelwy, Sir Ddinbych, yr anaf wrth chwarae i’w glwb, Sale Sharks, yn erbyn Bryste fis Hydref y llynedd.

Bu Eifion Lewis-Roberts yn chwarae i Sale Sharks ers 2006.

Bu hefyd yn chwarae am gyfnod o 12 mis i’r clwb Toulon yn ystod tymor 2012-13 a chafodd gyfle i wisgo’r crys coch dros Gymru unwaith yn 2008, a hynny mewn gêm ryngwladol yn erbyn Canada.

“Gwas arbennig” i’r clwb

Yn ôl Cyfarwyddwr Rygbi Sale Sharks, Steven Diamond, mae Efion Lewis-Roberts wedi bod yn “was arbennig” i’r clwb ac y bydd yn cael ei gofio am “y cant y cant o ymdrech” a roddodd i mewn i bob gêm.

“Rydym yn falch am y ffaith y bydd yn mynychu pob gêm gartref yn y dyfodol fel llysgennad y clwb,” meddai.