Doedd un o’r ceisiau gorau yn hanes y Llewod gan Sean O’Brien ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth wrth i Seland Newydd eu trechu o 30-15 yn Auckland.
Sgoriodd y blaenasgellwr o Iwerddon gais bedair munud cyn hanner amser ar ddiwedd symudiad o 80 metr a gafodd ei ddechrau gan gefnwr Cymru, Liam Williams.
Mae’r Crysau Duon bellach yn ddi-guro mewn 39 o gemau ar gae Parc Eden.
Sgoriodd y bachwr Codie Taylor y cais cyntaf cyn i’r asgellwr 20 oed Rieko Ioane ychwanegu ddau gais, ac fe ddaeth 15 o bwyntiau oddi ar droed Beauden Barrett.
Ciciodd Owen Farrell gic gosb i’r Llewod a sgoriodd yr eilydd o fewnwr o Gymru, Rhys Webb gais hwyr a gafodd ei drosi Farrell.
Ond fe fydd rhaid i’r Llewod sicrhau buddugoliaeth yr wythnos nesaf i gadw eu gobeithion o ennill y gyfres yn fyw.