Munster 23–3 Gweilch
Munster a fydd gwrthwynebwyr y Scarlets yn rownd derfynol y Guinness Pro12 y penwythnos nesaf wedi iddynt drechu’r Gweilch yn yr ail rownd gynderfynol nos Sadwrn.
Nid oedd Munster ar eu gorau ar Barc Thomond a chafwyd perfformiad digon derbyniol gan y Gweilch ond gwnaeth y Gwyddelod ddigon i fynd â hi’n gymharol gyfforddus yn y diwedd.
Cafodd y Gweilch ddigon o’r meddiant yn yr ugain munud agoriadol ond tri phwynt o droed Dan Biggar a oedd unig bwyntiau’r chwarter cyntaf.
Er mai digon blêr a oedd chwarae Munster ar y cyfan, roeddynt yn dod yn fyw yn nau ar hugain y Gweilch a chroesodd Francis Saili am gais cyntaf y gêm wedi gwaith da Rory Scannell i gadw’r bêl yn fyw wrth yr ystlys.
Methodd Tyler Bleyendaal y trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb ar ddiwedd yr hanner, 8-3 y sgôr wrth droi.
Cafodd yr ymwelwyr o Gymru gyfnodau o faddiant yn yr ail hanner hefyd, ond heb Rhys Webb yn y tîm, roedd y cwbl yn rhy araf a di fflach.
Doedd dim yn araf a di fflach am ail gais Munster toc wedi’r awr wrth i Simon Zebo gwblhau gwrthymosodiad gwych o hanner eu hunain. Roedd honno’n un eiliad o gyffro mewn gêm ddigon diflas a rhoddodd trosiad Bleyendaal y tîm cartref dair sgôr ar y blaen.
Roedd y ffidl yn y to wedi hynny a chroesodd Andrew Conway am drydydd cais Munster yn rhy rhwydd o lawer bum munud cyn y ddiwedd.
Y Scarlets yn erbyn Muntser fydd rownd derfynol y Pro12 eleni felly, gyda’r gêm i’w chwarae yn Nulyn nos Sadwrn nesaf.
.
Muntser
Ceisiau: Francis Saili 26’, Simon Zebo 62’, Andrew Conway 75’
Trosiad: Tyler Bleyendaal 63’
Ciciau Cosb: Tyler Bleyendaal 40’, 68’
.
Gweilch
Cic Gosb: Dan Biggar 8’