Justin Burnell
Mae Clwb Rygbi Pontypridd wedi apwyntio Justin Burnell yn Brif Hyfforddwr ar gyfer tymor 2017-2018.

Cyn troi at hyfforddi, fe chwaraeodd i Bontypridd yn ystod tymor 1991-1992 a hefyd i Ben-y-bont ar Ogwr, Treorci, Caerdydd a Chastell Nedd.

Dychwelodd i Bontypridd yn 2003 lle bu’n Gyfarwyddwr Academi ac Uwch Hyfforddwr, cyn ymuno â’r Gleision yn Brif Hyfforddwr yn 2011.

Bu’n hyfforddi Tîm Cenedlaethol dan 19 Cymru am gyfnod, a llwyddodd y tîm i ennill Camp Lawn y Chwe Gwlad a chyrraedd rowndiau gogynderfynol Cwpan y Byd FIRA yn 2016.

Mae Justin Burnell hefyd â phrofiad o hyfforddi yn Lloegr ac wedi hyfforddi Clwb Rygbi Cymry Llundain a’r Rotherham Titans.