Ross Moriarty (Llun: WikiCommons)
Doedd cais wythwr Cymru, Ross Moriarty ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gaerloyw dros Stade Francais yn rownd derfynol Cwpan Her Ewrop ym Murrayfield neithiwr.
Y Ffrancwyr oedd enillodd y gêm yn y pen draw o 25-17, gan godi’r tlws am y tro cyntaf erioed.
Aeth y Saeson ar y blaen gyda chais gan Jonny May, ond daeth y Ffrancwyr yn gyfartal drwy gais gan wythwr yr Eidal Sergio Parisse ar ôl 31 munud.
Cafodd mewnwr Caerloyw, Willi Heinz gerdyn melyn ar ddiwedd yr hanner cyntaf ac roedd y momentwm yn dechrau troi o blaid y Ffrancwyr erbyn dechrau’r ail hanner.
Daeth ceisiau i Jonathan Danty a Geoffrey Doumayrou i sicrhau’r fuddugoliaeth cyn i Ross Moriarty daro’n ôl gyda chais cysur i’r Saeson tua’r diwedd.