Gareth Anscombe
Mae Gareth Anscombe, maswr Gleision Caerdydd, wedi arwyddo cytundeb deuol cenedlaethol newydd gyda’r tîm rhanbarth ac Undeb Rygbi Cymru.

Daeth y chwaraewr o Seland Newydd i Gymru yn 2014 ac ers hynny mae wedi chwarae i’r Gleision 43 o weithiau gan sgorio 337 pwynt.

Ers chwarae i Gymru am y tro cyntaf yn 2015 mae wedi cael naw cap ac ar ddechrau’r wythnos cafodd ei enwi yn y garfan ar gyfer taith haf Cymru.

“Mae’n wych gweld Gareth yn ailarwyddo ei gytundeb deuol cenedlaethol, ac yn ymuno â’r chwaraewyr eraill fel rhywun sydd yn barod i ymrwymo ei ddyfodol i’r gêm yng Nghymru,” meddai’r hyfforddwr Warren Gatland.

“Mae Gareth ar ei gyflwr gorau unwaith eto wedi iddo wella o’i anafiadau diweddar, ac mae’n haeddu ei safle ar daith Cymru yn ystod yr haf.”